A oes gennych ateb sydd wedi’i brofi o ran mater cymdeithasol yr ydych yn gwybod y gallai helpu hyd yn oed fwy o bobl? A ydych yn edrych i atgyfnerthu eich sgiliau a gwybodaeth i wneud i hynny ddigwydd?
Bydd Scale Accelerator: Leaders of Scale yn cyflwyno’r wybodaeth a’r hyder i ddau o aelodau eich tîm i arwain eich sefydliad ar lwybr i gyrraedd mwy o bobl.
Gan ddefnyddio dull ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’, bydd y rhaglen yn eich rhoi ar flaen eich sefydliad i yrru ei daith o gynnydd. Fe fyddwch yn ennill yr amser, y lle a’r gefnogaeth i ystyried, datblygu eich cynlluniau cynnydd, a symud ymlaen gyda hwy trwy ddefnyddio’r hyn a ddysgir o’r rhaglen yn uniongyrchol o fewn eich sefydliad.
Fe fyddwch yn dysgu ochr yn ochr â chohort o arweinwyr cymdeithasol gyda photensial enfawr sydd wedi’u dewis yn ofalus, gan gymryd rhan mewn setiau dysgu gweithgar a gweithgareddau dysgu eraill gyda chymheiriaid lle y byddwch yn herio, cefnogi ac yn ysbrydoli eich gilydd.
Erbyn diwedd y rhaglen, fe fydd gennych:
- Gynllun eglur y gellir ei weithredu i wneud cynnydd yn gynaliadwy
- Fframweithiau a dulliau cymorth i’w cyflwyno’n ôl i’ch tîm
- Yr wybodaeth a’r hyder i arwain taith eich sefydliad tuag at gynnydd
Mae ceisiadau ar agor tan 17 Ionawr am 11:59pm. Cynhelir y rhaglen rhwng mis Mawrth a mis Awst 2022.