A oes mater cymdeithasol enbyd a pharhaus yr ydych yn angerddol am ei drafod? A ydych yn teimlo y dylai eich sefydliad wneud hyd yn oed mwy i’w ddatrys?
Mae Scale Accelerator yn cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol a leolir yn y DU sy’n uchelgeisiol am gyflwyno eu hatebion sydd wedi’u profi i fwy o bobl mewn rhagor o leoedd.
Bydd rhaglen 2021 yn cynnwys dau lwybr:
1. Scale Accelerator: Ymgynghoriaeth Ddwys – rhaglen 6 mis sydd wedi’i sybsideiddio’n helaeth ac yn cynnig gwerth £35,000 o waith ymgynghoriaeth, cefnogaeth strategol a chyfleoedd dysgu pwrpasol ymysg cyfoedion gyda rhwydwaith o arweinwyr cymdeithasol blaengar a dyfeisgar.
2. Scale Accelerator: Arweinwyr Cynnydd – rhaglen hyfforddi ddwys sy’n 4 mis o hyd er mwyn cefnogi arweinwyr sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth i feithrin y sgiliau, gwybodaeth a’r dulliau sy’n angenrheidiol i fod yn asiantau dros newid o fewn eu sefydliadau.
Mae ceisiadau ar agor tan ddydd Llun, 12 Ebrill 2021, am 11:59pm.